Cardigan Giant

Lantern Parade

Small World Theatre is well known for attracting large crowds to big public events such as lantern parades and environmental theatre productions. The Cardigan Lantern Parade was founded in 2016 supported by Visit Wales, and has since been funded by the National Lottery Community Fund.

This year we are delighted to announce that the event is happening on 8/12/24 with the support of Cynnal y Cardi through Ceredigion County Council to deliver the event under the UK Government’s Shared Prosperity Fund through the Levelling Up initiative.

Mae Theatr Byd Bach yn adnabyddus am ddenu tyrfaoedd mawr i ddigwyddiadau mawr cyhoeddus fel gorymdeithiau llusernau a chynyrchiadau theatr amgylcheddol. Sefydlwyd Parêd Llusernau Aberteifi yn 2016 ac fe’i cefnogir gan Croeso Cymru, ac mae wedi cael ei noddi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ers hynny.

Eleni rydym ni werth ein boddau i gyhoeddi fod y digwyddiad hwn yn digwydd ar 8/12/24 gyda chefnogaeth Cynnal y Cardi drwy Gyngor Sir Ceredigion i ddarparu’r digwyddiad o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy fenter Ffyniant Bro.

Photos by Jennie Caldwell (first section) and Stuart Ladd (second section)

Press

Cardigan Giant Lantern Parade is announced along with plans for a new winter festival.

3/4/24

Small World Theatre announced that Cardigan Giant Lantern Parade will be held on 6th December this year following the hugely successful revival of the town’s event in 2023. The parade will be a major event within a new Festival of Light organised by the Cardigan-based theatre company.

Ann Shrosbree, Director of Small World Theatre said:

"We know that the Cardigan Giant Lantern Parade is an exciting celebration of creativity for the town at a time when many families are looking to take part in seasonal events. In 2016 we launched the first parade with Visit Wales funding and the support of Cardigan Town Centre Partnership. We’ve continued to grow the event with enthusiasm on behalf of our community, and we hope to build on everyone’s hard work to further enhance Cardigan's festivities with a town-wide Festival of Light to support the local economy."

This project has the support of Cynnal y Cardi through Ceredigion County Council to deliver the event under the UK Government’s Shared Prosperity Fund through the Levelling Up initiative. It will include engaging with local businesses and stakeholders to highlight the many local attractions, unique independent shops, cafes, restaurants, venues and bars that justifiably make Cardigan an exciting winter destination.

Councillor Clive Davies, Ceredigion County Council’s Cabinet Member for the Economy and Regeneration, said:

“It was back in 2016 when I had the honour of being Mayor of Cardigan and we had the very first Cardigan Festival of light with its Giant Lantern Parade. Over the years this developed into a large-scale event with support from a number of funders, local organisations and volunteers. It became an attraction for people from further afield and impacted positively on the wider local retail and hospitality economy. By now even with the years of the pandemic disruption, we’ve been able to bring it back. Cardigan has a strong vein of creativity and can-do and once again Small World Theatre with their creative talent have brought together this exiting programme under a new Festival of Light. Through the funding we’re providing, this will support the continued success of the Giant Lantern Parade as well as the other planned events.”

Although December seems a long way off, plans will start in the spring. These include organising public transport to Cardigan from surrounding areas to the winter festival and working with local organisations to jointly promote their Christmas events. Councillor Elaine Evans added:

“We're all very excited to have a date in the diary for the Parade thanks to Ceredigion County Council supporting Small World Theatre. It's a magical event and one that brings great joy to residents, and especially to families."

Further details of the Festival of Light programme will be announced in the Autumn and until then, please save the date!

Cyhoeddi Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ynghyd â chynlluniau ar gyfer gŵyl aeaf newydd.

Cyhoeddodd Theatr Byd Bach y cynhelir Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ar 6 Rhagfyr eleni yn dilyn adfywiad hynod lwyddiannus y digwyddiad yn y dref yn 2023. Bydd y Parêd Enfawr yn ddigwyddiad mawr gyda Gŵyl y Goleuni wedi’’i threfnu gan y cwmni theatr o Aberteifi.

Dywedodd Ann Shrosbree, Cyfarwyddwr theatr Byd Bach:

"Rydyn ni’n gwybod fod y Parêd Llusernau Enfawr yn ddathliad cynhyrfus o greadigrwydd ar gyfer y dref ar adeg pan fod nifer o deuluoedd am gymryd rhan mewn digwyddiadau tymhorol. Yn 2016 fe wnaethon ni lansio’r parêd cyntaf gyda nawdd Croeso Cymru a chefnogaeth Partneriaeth Canol Tref Aberteifi. Rydym ni wedi parhau i dyfu’r digwyddiad gyda brwdfrydedd ar ran ein cymuned, ac rydym ni’n gobeithio adeiladu ar waith caled pawb i wella dathliadau Aberteifi fwy fyth gyda Gŵyl y Goleuni i gefnogi’r economi leol."

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cefnogaeth Cynnal y Cardi drwy Gyngor Sir Ceredigion i ddarparu’r digwyddiad o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy fenter Codi’r Gwastad. Bydd yn cynnwys ymwneud â busnesau lleol, caffis, bwytai, canolfannau a bariau fydd yn gwneud Aberteifi’n fan cynhyrfus i ymweld ag ef heb os dros y gaeaf.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio:

“Yn ôl yn 2016, cefais yr anrhydedd o fod yn Faer Aberteifi a chynhaliwyd Gŵyl y Goleuni cyntaf Aberteifi a’i Pharêd Llusernau Enfawr. Dros y blynyddoedd mae hyn wedi datblygu yn ddigwyddiad ar raddfa fawr gyda chefnogaeth gan nifer o gyllidwyr, sefydliadau lleol a gwirfoddolwyr. Daeth yn atyniad i bobl o ymhellach i ffwrdd a chafodd effaith gadarnhaol ar yr economi manwerthu a lletygarwch lleol ehangach. Erbyn hyn, hyd yn oed gyda blynyddoedd o aflonyddwch y pandemig, rydym wedi gallu dod ag ef yn ôl. Mae gan Aberteifi agwedd greadigol a rhagweithiol gref ac unwaith eto mae Theatr Byd Bychan, gyda'u dawn greadigol, wedi dod â'r rhaglen gyffrous hon ynghyd mewn Gŵyl y Goleuni newydd. Trwy’r cyllid rydyn ni’n ei ddarparu bydd hyn yn cefnogi llwyddiant parhaus Gorymdaith y Llusernau Enfawr yn ogystal â’r digwyddiadau eraill sydd wedi’u cynllunio.”

Er bod Rhagfyr yn teimlo’n bell i ffwrdd, bydd y cynlluniau’n dechrau yn y gwanwyn. Bydd y rhain yn cynnwys trefnu trafnidiaeth gyhoeddus i Aberteifi o ardaloedd cyfagos i’r ŵyl aeaf a gweithio gyda sefydliadau lleol i hyrwyddo’r digwyddiadau Nadolig ar y cyd. Ychwanegodd y Cynghorydd Elaine Evans:

“Rydym ni wedi’n cyffroi i gael dyddiad yn y dyddiadur ar gyfer y parêd diolch i gefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion o Theatr Byd Bach. Mae’n ddigwyddiad hudolus ac yn un sy’n dod â llawenydd mawr i drigolion, ac yn enwedig i deulueodd."

Cyhoeddir manylion rhaglen Gŵyl y Goleuni yn yr hydref a hyd hynny, a wnewch chi gadw’r dyddiad!